Croeso i Malltraeth Ymlaen
Tudalen Flaen
Tudalen Flaen.Pentrf bychan ar arfordir de orllewinol Ynys Mon yw Malltraeth, wedi ei leoli ar lan yr afon Cefni. Mae yn adnabyddus am ‘Gob Malltraeth', sef y morglawdd sydd yn ymestyn am oddetu milltir o hyd. Mae rhan o lwybyr arfordirol Ynys Mon yn rhedeg ar ei hyd, yn ogystal ar llwybyr beicio "Lon Las Cefni". Codwyd yr adeiladwaith yma yn ystod yr 1820eu, ai gwblhau yn 1824, pan gaeth yr afon Cefni ei haddasu fel math o gamlas, fel rhan or cynllun I draenio Cors Ddyga a oedd yn galluogi adeiliadu y ffordd A5 I Gaergybi, ac hefyd I ddatblygu y diwidiant glo ar y tir. Mae'r morglawdd yn amgylchynu rhan o ‘bwll y cob', sef gwarchodfa natur a reolir gan ‘Gyngor Cefn Gwlad Cymru'. Dynodwyd Cors Ddyga fel lleoliad o bwysigrwydd gwyddonol arbenig, ac mae hefyd yn lleoliad gwarchodfa natur yr RSPB. Malltraeth oedd y pentref lle yr ymgartrfodd yr arlunydd bywyd gwyllt enwog Charles Tunnicliffe RA, OBE yn 1947, gan sefydlu ei stiwdio yn edrych allan tros aber yr afon Cefni.
Grwp cymunedol a sefydlwyd yn wreiddiol yn Ionawr 2005 ydi ‘Malltraeth Ymlaen', ond wedi cael ei strwythuro fel cwmni cofrestredig, cyfynedig trwy warrant ar 16eg o Awst 2006. Amcanion a nod y grwp ydi-
Annog cymeryd rhan mewn prosiectau cymunedol
Hyrwyddo dysgu sgiliau newydd I oll
Dadeni y gymuned, gweithio ar brosiectau amgylcheddol, trwy weithio mewn partneriaeth gyda cyrff statudol ac asiantaethau eraill er budd y cyhoedd, ac yn arbenig trigolion Malltraeth ar ardal o amgylch.
Mae pob aelod or gymuned yn gymwys I aelodaeth, ac mae gwethgareddau y grwp yn gyfifoldeb pwyllgor rheoli, sydd yn cynwys deuddeg aelod. Bydd aelodau y pwyllgor rheoli yn cael ei henwebu ac ethol yn y Cyfafod Blynyddol a gynhelir yn ystod Mai/Mehefin, gyda pob aelod yn gwasanethu am gyfnod o dair blynedd, gyda pedair sedd yn dyfod yn wag yn flynyddol.
Dyluniwyd ein ‘logo' gan un o ddisgyblion Ysgol Gymunedol Bodorgan.
